logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Yr Arglwydd fendithiwn, cydganwn ei glod

Yr Arglwydd fendithiwn, cydganwn ei glod,
ei enw fawrygwn tra byddwn yn bod:
cyhoeddwn ei haeddiant a’i foliant di-fai;
ei ras a’i ogoniant sy’n foroedd di-drai.

Yr Arglwydd ddyrchafwn, efe yw ein rhan,
ac ynddo gobeithiwn, mae’n gymorth i’r gwan:
trwy’r ddaear a’r nefoedd ar gynnydd mae’r gân;
ei ras drwy yr oesoedd wna luoedd yn lân.

Yr Arglwydd a folwn, cysegrwn ein hoes
i’w garu, a gweithiwn dros grefydd y groes:
efe yw ein tarian, awn, awn yn ei nerth,
meddiannwn y Ganaan dragwyddol ei gwerth.

PENLLYN (W.Evans Jones), 1854-1938

(Caneuon Ffydd 108)

PowerPoint PPt Sgrîn lydan