logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ti sy’n llywio rhod yr amser

Ti sy’n llywio rhod yr amser
ac yn creu pob newydd ddydd,
gwrando, Iôr, ein deisyfiadau
a chryfha yn awr ein ffydd:
ynot y cawn oll fodolaeth,
ti yw grym ein bywyd ni,
‘rwyt Greawdwr a Chynhaliwr,
ystyr amser ydwyt ti.

Maddau inni oll am gredu
mai nyni sy’n cynnal byd
a bod gwaith ein dawn a’n clyfrwch
dan dy fendith di o hyd:
gwelwn ffrwyth ein byw rhyfygus
wrth in heddiw syllu’n ôl;
argyhoedda ni o’n pechod,
tyn ni’n rhydd o’n balchder ffôl.

Ein gorwelion sydd mor agos
fel na wyddom beth sydd draw;
roddwr graslon y blynyddoedd,
rhown ein hunain yn dy law:
pura’n llwyr ein dymuniadau
a’n cymhellion ni bob un
nes y byddo’n dyddiau’n gyfan
yn rhoi clod i ti dy hun.

W. RHYS NICHOLAS, 1914-96 © Richard E. Huws

(Caneuon Ffydd 100)

PowerPoint PPt Sgrîn lydan

  • Gwenda Jenkins,
  • January 18, 2016