logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ti, Arglwydd, a greodd y bydoedd

Ti, Arglwydd, a greodd y bydoedd,
a threfnaist i’r wawrddydd ei lle,
dy allu a daenodd y nefoedd
a’th gerbyd yw cwmwl y ne’;
gosodaist sylfeini y ddaear
a therfyn i donnau y môr,
mor fawr yw gweithredoedd digymar
a rhyfedd ddoethineb yr Iôr.

Ti, Arglwydd, sy’n cynnal y cread
a newydd yw’r fendith a ddaw
i ninnau bob bore o fwriad
ewyllys haelionus dy law;
mor rasol yr ydwyt yn darpar,
ac amlach na thywod y môr
yw mawrion weithredoedd digymar
a rhyfedd ddoethineb yr Iôr.

Ti, Arglwydd, a luniodd galonnau
i’th garu yn fwyfwy o hyd,
rhoist Iesu, Gwaredwr eneidiau,
yn gymod dros bechod y byd:
ein moliant, O Arglwydd maddeugar,
fo’n chwyddo fel llanw y môr
am fawrion weithredoedd digymar
a rhyfedd ddoethineb yr Iôr.

D. GWYN EVANS, 1914-95  © G. I. Evans. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

(Caneuon Ffydd:103)

PowerPoint PPt Sgrîn lydan

  • Gwenda Jenkins,
  • January 28, 2016