logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Pan dorro’r wawr dros ael y mynydd llwm,

(Tôn: Caryl, Rhys Jones)

Pan dorro’r wawr dros ael y mynydd llwm,
pan euro’r haul las erwau llawr y cwm,
pan byncia’r adar gân yn gynnar gôr
mi ganaf innau fawl i’r Arglwydd Iôr.

Pan welaf wên ar wedd blodeuyn hardd,
pan welaf wyrth aeddfedrwydd ffrwythau’r ardd,
pan glywaf su aur donnau’r meysydd ŷd
mi ganaf innau fawl i Grëwr byd.

Pan ddelo’r hwyr a’i gwrlid dros y byd
a’r lloer a’i llewyrch llon yn gwylio’i grud,
wrth fynd i gysgu, am gael bod yn fyw,
mi ganaf innau fawl i’r Arglwydd Dduw.

GLYNDWR RICHARDS, 1920-96 © Beryl M. Richards. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

(Caneuon Ffydd: 106)

PowerPoint PPt Sgrîn lydan