logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Mawr ddyled arnom sydd

Mawr ddyled arnom sydd
i foli Iôr y nef,
wrth weld o ddydd i ddydd
mor dirion ydyw ef;
ef yw ein Craig, ein tŵr a’n maeth;
y flwyddyn hon ein cofio wnaeth.

Ni all tafodau byw
holl ddynol-ryw yn un
fyth ddatgan gymaint yw
ei gariad ef at ddyn;
efe sy’n darpar, ar ei ran,
ei nerth a’i fywyd ymhob man.

O cydfoliannwn Dduw
am drugareddau rhad,
a gweld dirioned yw
ei ofal am ein gwlad;
O boed i’n henaid dduwiol ddawn
i ganmol Duw â chalon lawn.

CASGLIAD SAMUEL ROBERTS, 1841

(Caneuon Ffydd 79)

PowerPoint PPt Sgrîn lydan