logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

I Dduw y dechreuadau

I Dduw y dechreuadau
rhown fawl am ddalen lân,
am hyder yn y galon
ac ar y wefus, gân:
awn rhagom i’r anwybod
a’n pwys ar ddwyfol fraich;
rho nerth am flwyddyn arall
i bobun ddwyn ei faich.

Ar sail ein doe a’n hechdoe
y codwn deml ffydd,
yn nosau ein gorffennol
ni fethodd toriad dydd;
a hithau’n ddyfnder gaeaf
disgwyliwn wanwyn Crist
a chlywed llais y durtur
uwch pob wylofain trist.

Boed blwyddyn gymeradwy
yr Arglwydd wrth ein dôr,
dirwyned drwy ein dyddiau
drugaredd hael yr Iôr:
a ni wrth borth y misoedd
yn ffyddiog am a ddaw,
ar drothwy’r daith anesgor
gafaelwn yn ei law.

JOHN RODERICK REES (1920-2009)

Caneuon Ffydd 87

PowerPoint PPt Sgrîn lydan

  • Gwenda Jenkins,
  • October 15, 2019