logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Gyda thoriad gwawr y bore

Gyda thoriad gwawr y bore,
O mor felys yw
codi’n llef a llafar ganu,
canu mawl i Dduw.

Seinia adar mân y coedydd
glod i’th enw mawr;
una’r gwynt a’r môr i’th foli,
Arglwydd nef a llawr.

Dan dy adain dawel, esmwyth
cawsom felys hun;
yn ddianaf drwy yr hirnos
cedwaist ni bob un.

Ar ein llwybrau heddiw eto
ein tywysog bydd;
Dduw a Thad ein Harglwydd Iesu,
cadw ni drwy’r dydd.

NANTLAIS, 1874-1959 (© Yr Athro S. Nantlais Williams. Defnyddir drwy ganiatâd.)

(Caneuon Ffydd 23)

PowerPoint
PPt Sgrîn lydan

  • Gwenda Jenkins,
  • March 9, 2015