logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Diolch i ti, yr hollalluog Dduw

Diolch i ti, yr hollalluog Dduw,
am yr Efengyl sanctaidd.
Haleliwia! Amen.

Pan oeddem ni mewn carchar tywyll, du
rhoist in oleuni nefol.
Haleliwia! Amen.

O aed, O aed yr hyfryd wawr ar led,
goleued ddaear lydan!
Haleliwia! Amen.

Y SALMYDD CYMREIG, 1840, priodolir i DAVID CHARLES, 1762-1834

(Caneuon Ffydd 49)

PowerPoint PPt Sgrîn lydan youtube

  • Gwenda Jenkins,
  • March 10, 2015