logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ysbryd y gwirionedd, tyred

Ysbryd y gwirionedd, tyred
yn dy nerthol, ddwyfol ddawn;
mwyda’r ddaear sych a chaled
a bywha yr egin grawn:
rho i Seion
eto wanwyn siriol iawn.

Agor gyndyn ddorau’r galon
a chwâl nythle pechod cas;
bwrw bob rhyw ysbryd aflan
sy’n llochesu ynddi i maes:
gwna hi’n gartref
i feddyliau prydferth gras.

Tywys Seion i’r gwirionedd,
at oludoedd meddwl Duw;
dyro’r manna, gad in yfed
o ffynhonnau’r dyfroedd byw;
dawn yr Ysbryd,
bywyd a thangnefedd yw.

GLANYSTWYTH, 1842-1902

(Caneuon Ffydd 573)

PowerPoint