logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ynghanol nos, oleuni mwyn y nef

Ynghanol nos, oleuni mwyn y nef,
O arwain fi;
mae’n dywyll iawn, a minnau ‘mhell o dref,
O arwain fi;
O cadw ‘nhraed, ni cheisiaf weled mwy
i ben y daith: un cam a bodlon wy’.

Bu amser na weddïwn am dy wawr
i’m harwain i;
chwenychwn gael a gweld fy ffordd: yn awr
O arwain di:
carwn y coegwych ddydd; er ofnau lu
balch oedd fy mryd: na chofia’r dyddiau fu.

Y nerth a’m daliodd cyd, ni phaid byth mwy
â’m harwain I
dros gors a gwaun a chraig a chenllif, drwy
y noson ddu,
nes cwrdd â’r engyl hawddgar gyda’r wawr,
a gerais gynt, ond gollais ennyd awr.

J. H. NEWMAN, 1841-90 (Lead, kindly light, amid the encircling gloom)
cyf E. KERI EVANS, 1860-41

(Caneuon Ffydd 773)

PowerPoint