logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Yn wastad gyda thi

Yn wastad gyda thi
dymunwn fod, fy Nuw,
yn rhodio gyda thi ‘mhob man
ac yn dy gwmni’n byw.

Y bore gyda thi
pan ddychwel gofal byd;
gad imi ddechrau gwaith pob dydd
yng ngwawr dy ŵyneb-pryd.

Dymunwn yn y dorf
fod gyda thi’n barhaus:
yn sŵn y ddaear rhof fy mryd
ar wrando’r hyfryd lais.

A phan dywylla’r nos,
fy Arglwydd, gad i mi
mewn heddwch gau amrantau blin
o dan dy adain di.

Yn wastad gyda thi ,
ac ynot ymhob man:
wrth fyw, wrth farw, gyda thi:
bydd imi byth yn rhan.

J. D. BURNS, 1823-64 (Still with Thee, O my God), cyf. ELFED, 1860-1953

(Caneuon Ffydd 672; Y Llawlyfr Moliant Newydd: 11)

PowerPoint