logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Yn nhawel wlad Jwdea dlos

Yn nhawel wlad Jwdea dlos
yr oedd bugeiliaid glân
yn aros yn y maes liw nos
i wylio’u defaid mân:
proffwydol gerddi Seion gu
gydganent ar y llawr
i ysgafnhau y gyfnos ddu,
gan ddisgwyl toriad gwawr.

Ar amnaid o’r uchelder fry
dynesai angel gwyn,
a safai ‘nghanol golau gylch
o flaen eu llygaid syn:
dywedai, “Dwyn newyddion da
yr wyf, i ddynol-ryw;
fe anwyd i chwi Geidwad rhad,
sef Crist yr Arglwydd Dduw.”

Ac ebrwydd unai nefol lu
mewn hyfryd gytgan bêr
nes seiniai moliant ar bob tu
o’r ddaear hyd y sêr:
“Gogoniant yn y nefoedd fry
i Dduw’r goruchaf Un,
tangnefedd ar y ddaear ddu,
ewyllys da i ddyn.”

Rhoed newydd dant yn nhelyn nef
pan anwyd Iesu Grist,
a thelyn aur o lawen dôn
yn llaw pechadur trist:
telynau’r nef sy’n canu nawr,
“Ewyllys da i ddyn,”
a chaned holl delynau’r llawr
ogoniant Duw’n gytûn.

ELIS WYN O WYRFAI, 1827-95

(Caneuon Ffydd 455)

PowerPoint