logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ymwêl â ni, O Dduw

Ymwêl â ni, O Dduw,
yn nerth yr Ysbryd Glân,
adfywia’n calon wyw,
rho inni newydd gân:
O gwared ni o’n llesgedd caeth,
a’r farn ddaw arnom a fo gwaeth.

Dy Eglwys, cofia hi
ar gyfyng awr ei thrai,
datguddia iddi’i bri,
a maddau iddi’i bai
am aros yn ei hunfan cyd,
a’i phlant yn crwydro ar faes y byd.

Pan ddelo’i phlant ynghyd,
a phob un yn ei le,
bydd eto’n wyn ei byd,
a’i mawl yn llanw’r ne’,
a’i hymdaith ar ôl cloffi’n hir
yn rymus tua’r Ganaan wir.

DYFNALLT, 1873-1956

PowerPoint