logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ymlaen af dros wastad a serth

Ymlaen af dros wastad a serth
ar lwybrau ewyllys fy Nhad,
a llusern ei air rydd im nerth
i ddiffodd pob bygwth a brad;
daw yntau ei hun ar y daith
i’m cynnal o’i ras di-ben-draw,
a hyd nes cyflawni fy ngwaith
fe gydiaf, drwy ffydd, yn ei law.

Ymlaen af â’m hyder yn Nuw
yn ŵyneb pob her ddaw i’m rhan,
a’i wên yn llawenydd fy myw,
ei wên sy’n gadernid i’r gwan;
ymlaen drwy bob storm gyda’i fraich
yn gysgod rhag gwayw y gwynt,
a’i ysgwydd i gynnal fy maich
wrth f’ymyl drwy helbul fy hynt.

Â’m hyder bob tro ynddo ef
ymlaen af i’r frwydyr mewn ffydd,
ymlaen, â gobeithgan y nef
i’r daith yn gyfeiliant bob dydd;
fy Nuw yw fy Llywydd drwy f’oes,
a dwyn ei gomisiwn yw ‘mraint,
gan ddathlu gwaradwydd ei groes
yn sêl buddugoliaeth ei saint.

EDWARD TURNEY, 1816-72 efel. SIÔN ALED (©Siôn Aled, defnyddiwyd drwy ganiatâd)

(Caneuon Ffydd 748)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 27, 2015