logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Yma rwy’n sefyll nawr

Pennill 1
Dod o’r anialwch crin
I’th waredigaeth Di
Yma rwy’n sefyll nawr
Dwylo a fu yn gaeth
A godir fry mewn mawl
Yma rwy’n sefyll nawr
Yma rwy’n sefyll nawr

Corws
Rwy’n sefyll ar
Dorrwr cadwynau
Gŵr y Gwyrthiau
Enw pwerus Iesu
Ar yr Atgyfodwr
Ar fy Ngwaredwr
Enw pwerus Iesu

Pennill 2
Dilyn dy law o’m blaen
I wlad yr addewid mawr
Yma rwy’n sefyll nawr
Fe gariaist y groes i mi
Rwy’n blentyn y Brenin cry’
Yma rwy’n sefyll nawr
Yma rwy’n sefyll nawr

Corws

Pont (X4)
Haleliwia rwy’n rhydd
Haleliwia rwy’n rhydd
Iesu ‘Ngwaredwr gadwodd fi

Haleliwia rwy’n rhydd

Corws (X2)

Diweddglo
Haleliwia rwy’n rhydd
Haleliwia rwy’n rhydd

Yma rwy’n sefyll nawr
Where I’m standing now
JOHNSON/LAKE/WICKHAM
Cyfieithiad awdurdodedig: Arwel E. Jones
© 2021 Phil Wickham Music (Gwein. gan / Small Stone Media BV, Holland (Gwein. yn y DU/Eire gan Song Solutions www.songsolutions.org)) / Simply Global Songs (Gwein. gan / Small Stone Media BV, Holland (Gwein. yn y DU/Eire gan Song Solutions www.songsolutions.org)) / Bethel Music Publishing (Gwein. gan Song Solutions) / Brandon Lake Music (Gwein. gan Song Solutions) / Maverick City Publishing Worldwide (Gwein. gan Song Solutions). Cedwir pob hawl. Defnyddiwyd trwy ganiatâd.
CCLI# 7181854

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • January 19, 2022