logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Y dydd a roddaist, Iôr, a giliodd

Y dydd a roddaist, Iôr, a giliodd,
ar d’alwad di ymdaena’r hwyr,
ein cynnar gân i ti ddyrchafodd,
a’th fawl a rydd in orffwys llwyr.

Diolchwn fod dy Eglwys effro
i’r ddaear ddu yn llusern dlos;
trwy’r cread maith mae hon yn gwylio
heb orffwys byth na dydd na nos.

Dros bob rhyw ynys a chyfandir,
yn gyson megis gwawr y dydd,
ei chân o fawl i ti a glywir,
ac nid oes baid ar weddi’r ffydd.

Yr haul wrth beri i ni noswylio
sy’n deffro’n brodyr gylch y rhod,
i draethu dy ogoniant eto
a datgan dy ryfeddol glod.

Dy orsedd, Arglwydd Dduw,
a bery pan syrth gorseddau byd a’u bri;
fe saif dy deyrnas, a chynyddu
nes delo pawb i’w haddef hi.

JOHN ELLERTON, 1826-93 cyf. R. D. ROBERTS, 1912-93  © geiriau Cymraeg Dafydd M. Roberts. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

(Caneuon Ffydd: 45)

PowerPoint PPt Sgrîn lydan

  • Gwenda Jenkins,
  • February 24, 2016