logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Wele’n gwawrio ddydd i’w gofio

Wele’n gwawrio ddydd i’w gofio,
geni Seilo, gorau swydd;
wele ddynion mwyn a moddion
ddônt â rhoddion iddo’n rhwydd:
hen addewid Eden odiaeth
heddiw’n berffaith ddaeth i ben;
wele drefniad dwyfol gariad
o flaen ein llygad heb un llen.

Duw a’n cofiodd, Duw a’n carodd,
Duw osododd Iesu’n Iawn;
Duw er syndod ddarfu ganfod
trefn gollyngdod inni’n llawn:
Duw ryfeddir, iddo cenir
gan drigolion nef a llawr,
tra bydd Iesu, fu mewn gwaeledd,
‘n eistedd ar yr orsedd fawr.

Haleliwia! Haleliwia!
Aeth i’r lladdfa yn ein lle;
Haleliwia! Haleliwia!
Duw sy’n fodlon ynddo fe:
sain Hosanna i Fab Dafydd,
Iesu beunydd fyddo’n ben;
am ei haeddiant sy’n ogoniant
bydded moliant mwy, Amen.

JOHN EDWARDS efallai JOHN EDWARDS (MEIRIADOG), 1813-1906

(Caneuon Ffydd 448)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 20, 2015