logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Wele wrth y drws yn curo

Wele wrth y drws yn curo,
Iesu, tegwch nef a llawr;
clyw ei lais ac agor iddo,
paid ag oedi funud awr;
agor iddo,
mae ei ruddiau fel y wawr.

Parod yw i wneud ei gartref
yn y galon euog, ddu
a’i phrydferthu â grasusau,
gwerthfawr ddoniau’r nefoedd fry;
agor iddo,
anghymharol Iesu cu.

O mor felys fydd cael gwledda
ar yr iachawdwriaeth rad,
wedi gadael byd o drallod,
draw yn nhawel dŷ ein Tad;
agor iddo,
cynnig mae y nef yn rhad.

IEUAN O LEYN, 1814-93

(Caneuon Ffydd 317)

PowerPoint