logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Uwch holl bwerau

Uwch holl bwerau, brenhinoedd byd,
Uwch pob rhyfeddod a phopeth creaist ti.
Uwch holl ddoethineb a ffyrdd amrywiol dyn,
Roeddet ti yn bod cyn dechrau’r byd.

Goruwch pob teyrnas, pob gorsedd byd,
Uwchlaw pob gorchest, uchelgais a boddhad,
Uwchlaw pob cyfoeth a holl drysorau’r byd,
Does dim ffordd o fesur dy holl werth.

Wedi’r groes, rhoddwyd Di mewn bedd,
Fe ddaethost lawr, a chael gwrthodiad llym.
Rhosyn Duw, Sathrwyd dan ein traed.
Ti ga’th y bai,
er fy mwyn i,
er fy mwyn i.

Above All: Paul Baloche & Lenny LeBlanc, Cyfieithiad Awdurdodedig: Steffan Elis, Gobaith i Gymru
Copyright © and in this translation 1999 Integrity’s Hosanna! Music/Adm. by CapitolCMGPublishing.com excl. UK, adm. by Integrity Music, part of the David C Cook family, songs@integritymusic.com /Lensongs Publishing

PowerPoint