logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Tyred Iesu i’r ardaloedd

Tyred Iesu i’r ardaloedd,
Lle teyrnasa tywyll nos;
Na fod rhan o’r byd heb wybod,
Am dy chwerw angau loes:
Am fawr boen, addfwyn Oen,
I holl gyrrau’r byd aed sôn.

Aed i’r dwyrain a’r gorllewin,
Aed i’r gogledd, aed i’r de,
Roddi hoelion dur cadarnaf
Yn ei draed a’i ddwylaw E’;
Doed ynghyd eitha’r byd
I weld tegwch d’ŵyneb-pryd.

Doed paganiaid yn eu t’wyllwch,
Doed y bobloedd mwya’u briw,
Doed addolwyr yr eilunod
I weld tegwch Iesu’n Dduw;
Deued llu heb ddim rhi’
Fyth i ganu am Galfari.

William Williams, Pantycelyn

(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 451)

PowerPoint