Gobaith

Tyred, Arglwydd, tyrd yn fuan

Tyred, Arglwydd, tyrd yn fuan,
Dim ni’m boddia dan y ne’,
Dim ond ti a ddeil fy ysbryd
Gwan, lluddedig, yn ei le;
Neb ond Ti a gyfyd f’enaid
Llesg o’r pydew du i’r lan;
Os Tydi sy’n gwneud im ochain,
Ti’m gwnei’n llawen yn y man.

Hwyl fy enaid sy wrth d’ewyllys,
Fel y mynnych mae yn bod
Oll o mewn, ac oll oddi allan,
Ddigwydd imi is y rhod:
‘Nawr Ti’m codi i’r lan i’r nefoedd,
Eilwaith Ti’m gostyngi i lawr;
Mae dy gerydd, mae dy gariad
Im yr un rhyfeddod mawr.

Tyrd, rho gerydd im, neu gariad,
’R un a fynnych Di dy hun;
Ond trwy’r cwbl cadw f’ysbryd
Yn sefydlog wrth dy glun:
Dros y bryniau gwna i mi gerdded
Tuag adre’n ddi-nacâd,
Heb yn unlle i mi edrych
Ond ar degwch tŷ fy Nhad.

William Williams, Pantycelyn

PowerPoint