logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Tyrd, Ysbryd Glân, i’n c’lonnau ni

Tyrd, Ysbryd Glân, i’n c’lonnau ni
a dod d’oleuni nefol;
tydi wyt Ysbryd Crist, dy ddawn
sy fawr iawn a rhagorol.

Llawenydd, bywyd, cariad pur
ydyw dy eglur ddoniau;
dod eli i’n llygaid, fel i’th saint,
ac ennaint i’n hŵynebau.

Gwasgara di’n gelynion trwch
a heddwch dyro inni;
os t’wysog inni fydd Duw Nêr
pob peth fydd er daioni.

Dysg in adnabod y Duw Dad,
y gwir Fab rhad a thithau
yn un tragwyddol Dduw i fod,
yn hynod dri Phersonau;

fel y molianner ymhob oes
y Duw a roes drugaredd,
y Tad, y Mab, a’r Ysbryd Glân:
da datgan ei anrhydedd.

EMYN LLADIN O’R 9FED GANRIF (Veni creator spiritus) cyf. ROWLAND FYCHAN, c.1587-1667

(Caneuon Ffydd 571)

PowerPoint