logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Torri wnes fy addunedau

Torri wnes fy addunedau
Gant o weithiau maith eu rhi’,
Ac mae’n rhaid wrth ras anfeidrol
I gadw euog fel myfi;
Wrth yr orsedd ‘r wyf yn cwympo,
Ac nid oes un enw i maes
Ag a rydd im feddyginiaeth
Ond yn unig gorsedd gras.

Minnau rois fy holl ymddiried,
Iesu, arnat Ti dy Hun;
Ac nid oes un enw arall
A all achub y fath un;
Tyn fi ‘mlaen i’r ardal hyfryd,
‘Maes o’r anial maith ei hyd;
Ti gei’r clod a’r holl ogoniant
Wedi’r elo’n ulw’r byd.

William Williams (1717-1791)
(Llawlyfr Moliant Newydd: 599)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • September 10, 2015