logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ti, Iesu, ydwyt, oll dy Hun

Ti, Iesu, ydwyt, oll Dy Hun
Fy meddiant ar y llawr;
A Thi dy Hunan fydd fy oll
O fewn i’r nefoedd fawr.

Mae ‘nymuniadau maith eu hyd
Yn pwyntio oll yn un,
Dros bob gwrthrychau is y sêr,
Ac atat Ti dy Hun.

O! ffynnon trugareddau maith!
Diderfyn yw dy ras,
I roi trysorau penna’r nef
I’r tlotaf un i maes.

Fy unig gysur dan bob gwae
Dy fod Di imi’n Dduw;
Ac yn Dy gysgod mi af trwy
Gystuddiau o bob rhyw.

Anghyfnewidiol gair y nef,
Ond cyfnewidiol fi;
Am hyn mi safaf doed a ddêl,
Mae’r afael sicraf fry.

William Williams, Pantycelyn

PowerPoint