logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ti, Iesu, frenin nef

Ti, Iesu, frenin nef,
F’anwylyd i a’m Duw!
Yn eithaf pell o dŷ fy Nhad,
Mewn anial wlad, ‘rwy’n byw.

Mewn ofnau rwyf a braw,
Bob llaw gelynion sydd;
O! addfwyn Iesu, saf o’m rhan,
A thyn y gwan yn rhydd.

Mae rhinwedd yn dy waed
I faddau beiau mwy
Nag y gall angel chwaith na dyn,
Byth rifo monynt hwy.

Mae ffynnon ar y bryn
A ylch yn wyn a glân
Bechodau o’r ffieiddia’ ‘rioed
Rifedi’r tywod mân.

‘Does diwedd fyth na thrai
Ar gariad angau loes;
Uwch pris o’r gwerthfawrocaf gaed
Yw haeddiant gwaed y Groes.

William Williams

(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 16)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • June 22, 2015