logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Sisialai’r awel fwyn

Sisialai’r awel fwyn
dros fryn a dôl
o gwmpas Bethlehem
‘mhell, bell yn ôl;
ŵyn bach mor wyn â’r ôd
branciai yn ffôl,
gwyliai’r bugeiliaid hwy
‘mhell, bell yn ôl.

Sisialai’r awel fwyn
dros fryn a dôl
o gwmpas Bethlehem,
‘mhell, bell yn ôl.

Canai angylion llon
uwch bryn a dôl
fwyn garol iddo ef
‘mhell, bell yn ôl;
ac er mai preseb gwael
roed iddo’n gôl
daeth Crist i Fethlehem
‘mhell, bell yn ôl.

HEIDELBERG PRESS cyf. JOHN HUGHES, 1896-1968 © geiriau Cymraeg Delun Callow. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

(Caneuon Ffydd: 474)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 11, 2016