logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Rwy’n edrych dros y bryniau pell

‘Rwy’n edrych dros y bryniau pell
amdanat bob yr awr;
tyrd, fy Anwylyd, mae’n hwyrhau
a’m haul bron mynd i lawr.

Tyn fy serchiadau’n gryno iawn
oddi wrth wrthrychau gau
at yr un gwrthrych ag sydd fyth
yn ffyddlon yn parhau.

‘Does gyflwr dan yr awyr las
‘rwyf ynddo’n chwennych byw,
ond fy hyfrydwch fyth gaiff fod
o fewn cynteddau ‘Nuw.

WILLIAM WILLIAMS 1717-91

(Caneuon Ffydd 296; Y Llawlyfr Moliant Newydd: 87)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 4, 2015