logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Rho in gofio angau Iesu

Rho in gofio angau Iesu
gyda diolchiadau llawn,
a chael derbyn o rinweddau
maith ei wir, achubol Iawn;
bwyta’i gnawd drwy ffydd ddiffuant,
yfed gwaed ei galon friw,
byw a marw yn ei heddwch:
O’r fath wir ddedwyddwch yw.

Addfwyn Iesu, dangos yma
ar dy fwrdd d’ogoniant mawr,
megis gynt wrth dorri bara
ymddatguddia inni nawr;
bydd yn wledd ysbrydol inni
er cyfnerthu’n henaid gwan,
gad in brofi o’r grawnsypiau
nes cael gwledd y nef i’n rhan.

ALLTUD EIFION, 1813-1905

(Caneuon Ffydd 655)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 26, 2015