logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Pam ‘r ofna f’enaid gwan

Pam ‘r ofna f’enaid gwan
Wrth weld aneirif lu
Yn amau bod im ran
A hawl yn Iesu cu?
Gwn mai dy-lyth wirionedd yw
Fod cariad Duw yn para byth.

A ddiffydd cariad rhad?
Ai ofer geiriau Duw?
A gollir rhinwedd gwaed
Ac angau Iesu gwiw?
Gwn mai dy-lyth wirionedd yw
Fod cariad Duw yn para byth.

Er Satan, byd, a chnawd,
A’m holl elynion cas,
Fe ddygir f’enaid tlawd
O’i holl gadwynau i maes:
Gwn mai dy-lyth wirionedd yw
Fod cariad Duw yn para byth.

William Williams, Pantycelyn

(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 254)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • June 23, 2015