logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Os gwelir fi bechadur

Os gwelir fi bechadur,
ryw ddydd ar ben fy nhaith
rhyfeddol fydd y canu
a newydd fydd yr iaith
yn seinio buddugoliaeth
am iachawdwriaeth lawn
heb ofni colli’r frwydyr
na bore na phrynhawn.

Fe genir ac fe genir
yn nhragwyddoldeb maith
os gwelir un pererin
mor llesg ar ben ei daith
a gurwyd mewn tymhestloedd
a olchwyd yn y gwaed
a gannwyd ac a gadwyd
drwy’r iachawdwriaeth rad.

Os dof fi drwy’r anialwch
rhyfeddaf fyth dy ras,
a’m henaid i lonyddwch
‘r ôl ganwaith golli’r maes;
y maglau wedi eu torri
a’m traed yn gwbwl rydd:
os gweilr fi fel hynny,
tragwyddol foli a fydd.

1 CASGLIAD HARRI SIÔN, 1773, 2 DAFYDD MORRIS, 1744-91, 3 HANNAH JOSHUA, bl. 1812

(Caneuon Ffydd 718)

PowerPoint