logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O’r nef mi glywais newydd

O’r nef mi glywais newydd
fe’m cododd ar fy nhraed –
fod ffynnon wedi ei hagor
i gleifion gael iachâd;
fy enaid, rhed yn ebrwydd,
a phaid â llwfwrhau,
o’th flaen mae drws agored
na ddichon neb ei gau.

O Arglwydd, dwg fy ysbryd
i’r ffynnon hyfryd, lân;
ysgafnach fydd fy meichiau,
melysach fydd fy nghân;
goleuach fydd fy llwybrau,
a’m camre fydd yn gynt,
fe redaf heb ddiffygio,
ond teimlo’r dwyfol wynt.

Ti, Iesu, fo hyfrydwch
fy meddwl i’w fywhau,
a gwrthrych pur fy nghariad
i’th hoffi a’th fwynhau;
fy ymffrost a’m gogoniant
drwy hyn o anial daith,
a’m cyflawn iachawdwriaeth
i dragwyddoldeb maith.

DAFYDD WILL.IAM, 1721?-94

(Caneuon Ffydd 326)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 13, 2015