logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O tyred, Iôr tragwyddol

O tyred, Iôr tragwyddol,
mae ynot ti dy hun
fwy moroedd o drugaredd
nag a feddyliodd dyn:
os deui at bechadur,
a’i godi ef i’r lan,
ei galon gaiff, a’i dafod,
dy ganmol yn y man.

Gwaredu’r saint rhag uffern
a phechod drwg ei ryw,
o safn y bedd ac angau,
a’u dwyn i fynwes Duw,
eu harwain dros fynyddoedd,
a thrwy yr anial chwith,
a grea nef y nefoedd
yn gân heb ddiwedd byth.

WILLIAM WILLIAMS, 1717-91

(Caneuon Ffydd 316; Y Llawlyfr Moliant Newydd: 325)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 4, 2015