logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O na foed ardal cyn bo hir

O na foed ardal cyn bo hir,
o’r dwyrain i’r gorllewin dir,
na byddo’r iachawdwriaeth ddrud
yn llanw cyrrau’r rhain i gyd.

Dewch, addewidion, dewch yn awr
dihidlwch eich trysorau i lawr;
myrddiynau ar fyrddiynau sydd
yn disgwyl am y bore ddydd.

Doed gogledd, de a dwyrain pell
i glywed y newyddion gwell,
ac eled sŵn Efengyl gras
yn gylch oddeutu’r ddaear las.

WILLIAM WILLIAMS, 1717-91

(Caneuon Ffydd 244)

PowerPoint