logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O gwawria, ddydd ein Duw

O gwawria, ddydd ein Duw,
oleuni pur y nef;
er mwyn dy weld ‘rwy’n byw
gan godi nawr fy llef;
Oen addfwyn Duw, dy gariad di
ddisgleirio ar fy enaid i.

O gwawria, ddydd ein Duw:
y nos a bery’n hir;
ochneidiau’n calon clyw,
oherwydd drygau’r tir;
O Seren Ddydd, nesâ yn awr,
O Haul Cyfiawnder, rho dy wawr.

O gwawria, ddydd ein Duw:
gan drais y blina’r byd,
a chalon dyn sy’n friw
yn sŵn y brwydro i gyd;
O torred arnom ddydd o hedd,
distawed twrf y gad a’r cledd.

O gwawria, ddydd ein Duw,
fel dydd y nef ei hun;
ffydd, gobaith, cariad gwiw
fo’n puro bywyd dyn;
ond wele’r wawr yn torri draw:
mae euraid fore’r dydd gerllaw.

HENRY BURTON, 1840-1930 (Break, day of God, O break) cyf. W. O. EVANS, 1864-1936

(Caneuon Ffydd 821)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 30, 2015