logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O disgyn, Ysbryd Glân

O disgyn, Ysbryd Glân,
o’r nefoedd wen i lawr
i gynnau’r dwyfol dân
yn ein calonnau nawr.

Y ddawn a roddaist ti
i’th Eglwys pan oedd wan
a wnaeth ei gweiniaid hi
yn wrol ar dy ran.

O gael tafodau tân
a phrofi’r nerthol wynt,
anturiwn ninnau ‘mlaen
fel dy ddisgyblion gynt.

O’th garu tra bôm byw
a rhodio gyda thi,
aroglau meysydd Duw
fydd ar ein gwisgoedd ni.

Tydi all ein glanhau
o’n beiau, fawr a mân;
gad inni fyth fywynhau
dy ddoniau, Ysbryd Glân.

J. J. WILLIAMS, 1869-1954

(Caneuon Ffydd 596)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • April 29, 2015