logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O deued pob Cristion i Fethlem yr awron

O deued pob Cristion i Fethlem yr awron
i weled mor dirion yw’n Duw;
O ddyfnder rhyfeddod, fe drefnodd y Duwdod
dragwyddol gyfamod i fyw:
daeth Brenin yr hollfyd i oedfa ein hadfyd
er symud ein penyd a’n pwn;
heb le yn y llety, heb aelwyd, heb wely,
Nadolig fel hynny gadd hwn.
Rhown glod i’r Mab bychan, ar liniau Mair wiwlan,
daeth Duwdod mewn baban i’n byd:
ei ras O derbyniwn, ei haeddiant cyhoeddwn
a throsto ef gweithiwn i gyd.

Tywysog tangnefedd wna’n daear o’r diwedd
yn aelwyd gyfannedd i fyw;
ni fegir cenfigen na chynnwrf na chynnen,
dan goron bydd diben ein Duw.
yn frodyr i’n gilydd, drigolion y gwledydd,
cawn rodio yn hafddydd y nef;
ein disgwyl yn Salem i ganu yr anthem
ddechreuwyd ym Methlem, mae ef.
Rhown glod i’r Mab bychan, ar liniau Mair wiwlan,
daeth Duwdod mewn baban i’n byd:
ei ras O derbyniwn, ei haeddiant cyhoeddwn
a throsto ef gweithiwn i gyd.

JANE ELLIS, bl. 1840 addas. Y CANIEDYDD CYNULLEIDFAOL NEWYDD, 1921

(Caneuon Ffydd 472)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 24, 2015