logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O am gael ffydd i edrych

O am gael ffydd i edrych
gyda’r angylion fry
i drefn yr iachawdwriaeth,
dirgelwch ynddi sy:
dwy natur mewn un person
yn anwahanol mwy,
mewn purdeb heb gymysgu
yn eu perffeithrwydd hwy.

O f’enaid, gwêl addasrwydd
y person dwyfol hwn,
dy fywyd mentra arno
a bwrw arno’th bwn;
mae’n ddyn i gydymdeimlo
â’th holl wendidau i gyd,
mae’n Dduw i gario’r orsedd
ar ddiafol, cnawd a byd.

ANN GRIFFITHS, 1776-1805

(Caneuon Ffydd 189)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 11, 2015