logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

N’ad im fodloni ar ryw rith o grefydd

N’ad im fodloni ar ryw rith
o grefydd, heb ei grym,
ond gwir adnabod Iesu Grist
yn fywyd annwyl im.

Dy gariad cryf rho’n f’ysbryd gwan
i ganlyn ar dy ôl;
na chaffwyf drigfa mewn unman
ond yn dy gynnes gôl.

Goleuni’r nef fo’n gymorth im,
i’m tywys yn y blaen;
rhag imi droi oddi ar y ffordd
bydd imi’n golofn dân.

DAFYDD MORRIS, 1744-91

(Caneuon Ffydd 291)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 13, 2015