logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Mhreswylfa yw’r Goruchaf Dduw (Salm 91)

Pennill 1:
’Mhreswylfa yw’r Goruchaf Dduw
Fy noddfa a’m cadarnle
Ynghanol pla ’niogelwch yw,
Ei wŷdd a fydd ’ngorffwysle.
Pan ofnau ddaw â’u saethau lu
Ei darian fydd fy lloches;
Â’m ffordd yn frith o faglau du
Fy nghodi wna i’w fynwes.

Pennill 2:
’Mhreswylfa yw’r Goruchaf Dduw
Mae’n gymorth ym mhob dychryn,
A gorffwys wnaf ’n Ei gariad triw
Caf groeso gan fy Mrenin.
Gwaredodd fi o faglau’r byd
Lle’m rhwymwyd gan fy mhechod,
Fe’m twyllwyd, dall fûm i gyhyd,
Daeth yno i’m dwyn o’r cysgod.

Cytgan:
Rymus Dduw, nerthol yw
Fy ngobaith i a’m noddfa;
Cadarn Iôr, Emaniwel,
Fy mythol amddiffynfa.

Pennill 3:
’Mhreswylfa yw’r Goruchaf Dduw
Fy nghalon gaiff Ei nodded;
Ei eiddo wyf ac Ef yw ’myw,
I mi rhoes Ei adduned.
Mi wn mai Duw yw’r Un a’m clyw,
Mae’n addo rhoi i’m ateb
 Bywyd, bodlon f’enaid yw –
Ei gwmni ’n lle marwoldeb.

’Mhreswylfa yw’r Goruchaf Dduw (Salm 91)
My Dwelling Place (Psalm 91) ( Chris Eaton, Keith Getty, Kelly Meredith Minter, Kristyn Getty, Stuart Townend)
Cyfieithiad awdurdodedig Linda Lockley
© 2015, 2018 Getty Music Hymns and Songs (Gwein. gan Music Services, Inc.)
Getty Music Publishing (Gwein. gan Music Services, Inc.)
Townend Songs (Gwein. gan Song Solutions www.songsolutions.org)
Nid yw’r gyfran sy’n weddill yn gysylltiedig. Cedwir pob hawl. Defnyddir trwy ganiatâd.
CCLI # 7174859

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • September 29, 2021