logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Mewn anialwch ‘rwyf yn trigo

Mewn anialwch ‘rwyf yn trigo,
temtasiynau ar bob llaw,
heddiw, tanllyd saethau yma, ‘fory,
tanllyd saethau draw;
minnau’n gorfod aros yno
yn y canol, rhwng y tân;
tyrd, fy Nuw, a gwêl f’amgylchiad,
yn dy allu tyrd ymlaen.

Marchog, Iesu, yn llwyddiannus,
gwisg dy gleddau ‘ngwasg dy glun;
ni all daear dy wrth’nebu
chwaith nac uffern fawr ei hun:
mae dy enw mor ardderchog,
pob rhyw elyn gilia draw;
mae dy arswyd drwy’r greadigaeth,
tyrd am hynny maes o law.

Tyn fy enaid o’i gaethiwed,
gwawried bellach fore ddydd,
rhwyga’n chwilfriw ddorau Babel,
tyn y barrau heyrn yn rhydd;
gwthied caethion yn finteioedd
allan, megis tonnau llif,
torf a thorf, dan orfoleddu,
heb na diwedd fyth na rhif.

WILLIAM WILLIAMS, 1717-91

(Caneuon Ffydd 262)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 4, 2015