logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Mae’r gelyn yn ei gryfder

Mae’r gelyn yn ei gryfder
yn gwarchae pobol Dduw,
a sŵn ei fygythiadau
sy beunydd yn ein clyw,
ond Duw a glyw ein gweddi
er gwaethaf trwst y llu:
er ymffrost gwacsaw uffern
mae Duw y nef o’n tu.

Fe guddiwyd ein gwendidau
gyhyd heb brofi’n ffydd;
pa fodd cawn nerth i sefyll
yn llawn oleuni’r dydd?
O Arglwydd, seinia’r utgorn
i’n cadarnhau’n ddi-baid,
a thawed pob ansicrwydd:
mae Crist y groes o’n plaid.

Pa ots fod milwyr Satan
yn rheng ar reng ddi-ri?
Enillwn fyrdd o’u nifer
i chwyddo’n rhengoedd ni!
A’r Arglwydd a’n hetholodd
i wisgo lifrai’r gwir
rydd i ni sêl ei Ysbryd
nes llawn feddiannu’r tir.

SIÔN ALED (©Siôn Aled, defnyddiwyd drwy ganiatâd)

(Caneuon Ffydd 616)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 25, 2015