logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Mae rhyw fyrdd o ryfeddodau

Mae rhyw fyrdd o ryfeddodau,
Iesu, yn dy farwol glwy’;
trwy dy loes, dy gur a’th angau
caed trysorau fwy na mwy:
ni all ceriwb byth na seraff
lawn fynegi gwerth yr Iawn
a roed drosom gan Gyfryngwr
ar Galfaria un prynhawn.

Pwy all fesur maint ei gariad,
a rhinweddau maith ei ras?
Nid angylion, er eu doniau,
na holl seintiau daear las;
môr di-drai, heb waelod iddo,
sydd yn chwyddo byth i’r lan;
nofia miloedd ynddo’n hyfryd
draw i’r bywyd yn y man.

DANIEL JONES, 1788?-1848

(Caneuon Ffydd 513)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 25, 2015