logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Mae gen i ddwylo

Mae gen i ddwylo i’w curo i Dduw,
Mae gen i goesau, i neidio i Dduw,
Mae gen i ‘sgwyddau i blygu i Dduw,
a fy nghorff i gyd i foli fy Nuw.

Diolch, diolch, diolch i Ti, Dduw,
Diolch, diolch, diolch i Ti, Dduw.

Mae gen i glustiau i wrando ar Dduw,
Mae gen i geg i weiddi am Dduw,
Mae gen i freichiau i’w codi at Dduw,
a fy nghorff i gyd i foli fy Nuw.

Diolch, diolch, diolch i Ti, Dduw,
Diolch, diolch, diolch i Ti, Dduw.

Hawlfraint © 2010 Billie Owens & Rhys Williams

PowerPoint PowerPoint lliw PDF MP3
  • MLC_Admin,
  • January 1, 1970