Gobaith

Mae dy air yn abl i’m harwain

Mae dy air yn abl i’m harwain
drwy’r anialwch mawr ymlaen,
mae e’n golofn olau, eglur,
weithiau o niwl, ac weithiau o dân;
mae’n ddi-ble ynddo fe,
fwy na’r ddaear, fwy na’r ne’.

‘Rwyf yn meddwl am yr oriau
caffwyf funud o’th fwynhau,
ac mae atsain pell dy eiriau’n
peri imi lawenhau:
O’r fath wledd, draw i’r bedd,
fydd cael edrych ar dy wedd.

O gad imi’n fuan, Arglwydd,
glywed geiriau distaw’r ne’,
rhag im redeg, heb im wybod,
ar ryw law i maes o’m lle;
yn dy law, heb ddim braw,
cerdda’ i’n union yma a thraw.

WILLIAM WILLIAMS, 1717-91

(Caneuon Ffydd 185; Y Llawlyfr Moliant Newydd: 426)

PowerPoint