logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Mae d’eisiau di bob awr

Mae d’eisiau di bob awr,
fy Arglwydd Dduw,
daw hedd o’th dyner lais
o nefol ryw.

Mae d’eisiau, O mae d’eisiau,
     bob awr mae arnaf d’eisiau,
bendithia fi, fy Ngheidwad,
     bendithia nawr.

Mae d’eisiau di bob awr,
trig gyda mi,
cyll temtasiynau’u grym,
yn d’ymyl di.

Mae d’eisiau di bob awr,
rho d’olau clir,
rho imi nerth, a blas
dy eiriau gwir.

Mae d’eisiau di bob awr,
sancteiddiaf Ri,
yn Iesu gwna fi’n wir
yn eiddot ti.

ANNIE S. HAWKS, 1835-1918 (I need Thee every hour) cyf. IEUAN GWYLLT, 1822-77

(Caneuon Ffydd 221)

PowerPoint