logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ildio

’Dwi wedi bod yn dilyn
Y byd a’i addewidion,
Ond dim ond ti sydd yn bodloni
Y gwagle yn fy nghalon.

’Dwi’n dal ymlaen i ymladd,
i geisio cael f’ewyllys i.
Ond dim ond pan ‘dwi’n rhoi fy mywyd
Y byddaf fi’n ei ffeindio hi.
Deled dy deyrnas,
Gwneler dy ewyllys.

Cytgan
’Dwi’n ildio f’oll i ti,
’Dwi’n ildio f’oll i ti,
’Dwi’n ildio f’oll i ti,
Iesu Grist.

Mi ddest ti lawr o’r nefoedd,
I fod yn faban yn y crud,
I fyw y bywyd perffaith,
A marw dros bechodau’r byd.
Iesu holl bwerus,
Yn rhoi ei hun yn llwyr.

Cytgan
Nes ti ildio d’oll i mi,
Nes ti ildio d’oll i mi,
Nes ti ildio d’oll i mi,
Iesu Grist. (x 2)

Mi roddaist ti dy fywyd,
Dy gorff yn torri ar y groes.
Felly Iesu nawr ’dwi’n ildio,
Dilynaf di am weddill f’oes.

Cytgan
’Dwi’n ildio f’oll i ti,
’Dwi’n ildio f’oll i ti,
’Dwi’n ildio f’oll i ti,
Iesu Grist. (x 2)

© Meilyr Geraint 2017 , Noiz Ministries

cordiau gitâr PowerPoint MP3