logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Iesu’r athro clyw ein diolch

Diolch am yr Ysgol Sul

Iesu’r athro clyw ein diolch
Am bob gwers a gawsom ni
Yn ein helpu ni i ddysgu
Mor arbennig ydwyt ti.

Yn yr Ysgol Sul y clywsom
Am dy air, dy ddysg a’th ddawn,
A bod modd i ninnau ddathlu
Bod yn rhan o’th deulu llawn.

Helpa ni i weld o’r newydd
Sut wyt am i ninnau fyw,
Ac i ddysgu am newyddion
Sydd yn sôn am gariad Duw.

Denzil I. John. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • February 18, 2016