logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Iesu, pwy all fod yn fwy na thi?

Iesu, pwy all fod yn fwy na thi?
Iesu, ti yw ‘ngobaith i,
Iesu’ ti yw ‘mywyd i,
Iesu, fy nghyflawnder i,
Iesu, caraf di.

Iesu, daethost gynt i’n daear ni,
gwisgo cnawd a wnaethost ti,
yn ddibechod rhodiaist ti
er mwyn dod i’n hachub ni,
Iesu, caraf di.

Iesu, gwrando ar fy egwan gri,
llanw fi â’th Ysbryd di,
rho im nerth i fyw i ti,
profi o’th lawenydd di,
Iesu, caraf di.

Iesu, ar y groes fe’m prynaist i,
drosof rhoist dy waed yn lli,
golchaist fi ar Galfarî,
ynot mae ‘ngorfoledd i,
Iesu, ceraist ni.

Iesu, do, fe atgyfodaist ti,
drylliaist rym y bedd i mi,
caf ryw ddydd dy weled di
a’th dragwyddol foli di,
Iesu, caraf di.

ANAD.

(Caneuon Ffydd 423)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 19, 2015