logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Gostyngeiddrwydd

[Philipiaid 2, Alaw: Y Gwŷdd]

Yr oedd Crist Iesu’n Harglwydd ar ffurf Duw, ar ffurf Duw,
Heb geisio gwneud ei hun yn gydradd â Duw, gydradd â Duw.
Gwacâodd Ef ei hun,
Gan ddyfod ar ffurf dyn,
Fel caethwas oedd ei lun, er fod Ef yn Dduw, fod Ef yn Dduw.

A phan oedd ar wedd ddynol yn ei oes, yn ei oes,
Dewisodd Iesu’n Harglwydd ddioddef loes, ddioddef loes,
A’i wneud ei hun yn llai,
Er nad oedd arno fai,
Yn ufudd hyd at angau ar y Groes, ar y Groes.

Am hynny tra dyrchafwyd Ef gan Dduw, Ef gan Dduw,
A rhoi yr enw uchaf iddo’n fyw, iddo’n fyw.
Pob glin o dan y nef
Yn plygu iddo Ef,
Pob tafod yn cyfaddef: Iesu’r Arglwydd yw, Iesu’r Arglwydd yw.

© Cass Meurig, Tachwedd 2018

PowerPoint PDF MP3
  • Gwenda Jenkins,
  • April 23, 2019