logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Gobaith Dyn yw Crist a’i Groes

Pennill 1
Pa obaith sydd i ni drwy’n hoes?
Dim ond Crist, Crist a’i Groes.
Beth yw ein hunig hyder mawr?
Eiddo Ef yw’n henaid nawr.
Pwy ddeil ein dyddiau yn Ei law?
Beth ddaw, heblaw pan dd’wed y gair?
A beth a’n ceidw i’r dydd a ddaw?
Gwir gariad Crist, Ef yw ein craig.

Cytgan
O cân haleliwia!
Di-ball yw ein gobaith;
O cân haleliwia!
Yn oes oesoedd addef wnawn –
Gobaith dyn yw Crist a’i Groes.

Pennill 2
Pa wir all leddfu enaid blin?
Duw sydd dda, Duw ei Hun.
Ei ras a’i rinwedd, ble mae’r rhain?
Yng ngwaed y Groes a’r goron ddrain.
Pwy ddeil ein ffydd ynghanol braw?
Pwy saif uwchlaw y storm a ddaw?
Pwy rydd y don a’n caria draw
At lan y dŵr, i’n Craig gerllaw.

Cytgan
O cân haleliwia!
Di-ball yw ein gobaith;
O cân haleliwia!
Yn oes oesoedd addef wnawn –
Gobaith dyn yw Crist a’i Groes.

Pennill 3
Wrth geg y bedd, beth ganwn ni?
“Crist, mae’n fyw!” yw ein llef.
Ac yn y Nef, pa wobr fydd?
Bywyd bythol gydag Ef,
Cyfodi wnawn i gwrdd â’r Iôr,
Pob bai ac angau, chwelir hwy,
A gwledda wnawn mewn hoen di-ball
A Christ yn eiddo’i ni byth mwy.

Cytgan
O cân haleliwia!
Di-ball yw ein gobaith;
O cân haleliwia!
Yn oes oesoedd addef wnawn –
Gobaith dyn yw Crist a’i Groes.

Gobaith dyn yw Crist a’i Groes
CHRIST OUR HOPE IN LIFE AND DEATH (BOSWELL | GETTY | KAUFLIN | MERKER | PAPA)
© 2020 Getty Music Hymns and Songs / Getty Music Publishing / Love Your Enemies Publishing ( / Messenger Hymns / Jordan Kauflin Music / Matthew Merker Music (Pob gwein. Gan Music Services/ Gwein. yn y DU/Eire. gan Song Solutions www.songsolutions.org)
cyf. Linda Lockley

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • March 24, 2021